Iwerddon 37–27 Cymru

Mae gobeithion Cymru o ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar ben am flwyddyn arall wedi iddynt golli yn erbyn Iwerddon yn Stadiwm Aviva brynhawn Sadwrn.

Er mai Iwerddon a oedd y tîm gorau am rannau helaeth o’r gêm, fe gadwodd Cymru o fewn cyrraedd tan y munud olaf pan setlodd rhyng-gipiad Jacob Stockdale y canlyniad.

Hanner Cyntaf

Ciciodd Leigh Halfpenny Gymru ar y blaen wedi tri munud ond Iwerddon a gafodd y gorau o’r chwarter cyntaf wedi hynny.

Aethant ar y blaen wedi saith munud wrth i Stockdale blymio drosodd yn y gornel chwith wedi pas hir dda Jonny Sexton.

Doedd maswr y Gwyddelod ddim yn cael cystal hwyl yn cicio at y pyst serch hynny, yn methu trosiad a dwy gic gosb yn y chwarter awr cyntaf wrth i Gymru aros ar y blaen.

Ymestynnodd Gareth Davies fantais yr ymwelwyr hanner ffordd trwy’r hanner gyda chais nodweddiadol, yn bylchu o fôn ryc i sgorio.

Llwyddodd Halfpenny gyda’r trosiad cyn ychwanegu cic gosb, 5-13 y sgôr ddeg munud cyn yr egwyl.

Caeodd Sexton y bwlch gyda’i gic lwyddiannus gyntaf at y pyst yn fuan wedyn. A’r tîm cartref a oedd ar y blaen wrth droi diolch i gais Bundee Aki, y canolwr cryf yn hyrddio drosodd gyda symudiad olaf yr hanner, 15-13 wedi trosiad Sexton.

Ail Hanner

Dechreuodd yr ail hanner fel y gorffennodd y cyntaf, gyda chais i Iwerddon. Dan Leavy a oedd y sgoriwr y tro hwn, y blaenasgellwr yn hyrddio drosodd o dan y pyst i roi trosiad syml i Sexton.

Parhau i reoli’r tir a’r meddiant a wnaeth y tîm cartref wedi hynny ac fe dwriodd Cian Healey at y gwyngalch i sicrhau’r pwynt bonws cyn yr awr.

Rhoddodd hynny Iwerddon bedwar pwynt ar ddeg ar y blaen ond wnaeth Cymru ddim rhoi’r ffidl yn y to ac fe groesodd Aaron Shingler am ail gais yr ymwelwyr yn dilyn gwaith da Hadleigh Parkes a Josh Navidi.

Rhoddodd trosiad Halfpenny Gymru o fewn saith cyn i gic gosb gan Connor Murray ymestyn y bwlch i ddeg.

Tarodd Cymru nôl yn syth gyda chais da i Steff Evans a thri phwynt yn unig a oedd ynddi gyda dau funud i fynd.

Roedd yn rhaid i dîm Warren Gatland ymosod o ddyfnder i geisio ennill y gêm felly ond wrth wneud hynny fe daflodd Gareth Asncombe bas yn syth i ddwylo Stockdale yng  ghanol y cae a rhedodd yntau o dan y pyst heb ei gyffwrdd i sicrhau buddugoliaeth Iwerddon ac amddifadu Cymru o hyd yn oed bwynt bonws.

.

Iwerddon

Ceisiau: Jacob Stockdale 7’, 80’, Bundee Aki 40’, Dan Leavey 45’, Cian Healey 54’

Trosiadau: Jonny Sexton 40’, 46’, Joey Carbery 80’

Ciciau Cosb: Jonny Sexton 36’, Connor Murray 76’

.

Cymru

Ceisiau: Gareth Davies 20’, Aaron Shingler 62’, Steff Evans 77’

Trosiadau: Leigh Halfpenny 21’, 64’, 78’

Ciciau Cosb: Leigh Halfpenny 3’, 31’