Fe fydd angladd teulu a gafodd eu lladd mewn tân yn Llangamarch ym Mhowys yn cael ei gynnal heddiw, bedwar mis ar ôl iddyn nhw gael eu lladd.

Bu farw dyn 68 oed, David Cuthbertson, ar Hydref 30 y llynedd, ynghyd â phump o blant -Just Raine (11), Reef Raine (10), Misty Raine (naw), Patch Raine (chwech) a Gypsy Raine (pedair). Bu’n rhaid eu hadnabod nhw a’u tad gan ddefnyddio DNA.

Llwyddodd tri o blant i ddianc cyn i’r adeilad ddymchwel yn y tân.

Mae cwest i farwolaethau’r chwech wedi’i agor yn Aberdâr a’i ohirio ar ôl i’r heddlu ddweud bod ymchwiliad i achos y tân ar y gweill.

Fe fydd adolygiad yn cael ei gynnal yn Y Trallwng cyn i’r cwest barhau ar Ebrill 6.