Fe fydd Osian Roberts, y Cymro Cymraeg oedd yn is-reolwr Chris Coleman, yn aros gyda thîm hyfforddi rheolwr newydd tîm pêl-droed Cymru, Ryan Giggs.

Mae disgwyl hefyd y bydd yn penodi dau o gyn-hyfforddwyr Man U, Tony Strudwick a’r Iseldirwr Albert Stuivenberg i’w dîm.

Roedd Osian Roberts yn aelod allweddol o dîm hyfforddi Cymru wrth iddyn nhw gyrraedd rownd gyn-derfynol Ewro 2016 yn Ffrainc, ac fe gafodd ei gyfweld ar gyfer y swydd ar ôl i Chris Coleman adael am Sunderland ym mis Tachwedd.

Fe fydd Tony Strudwick yn ymuno â’r tîm yn lle Dr Ryland Morgans, y cyn-hyfforddwr cyflyru.

Pwy yw Albert Stuivenburg?

Cydweithiodd Ryan Giggs ac Albert Stuivenburg o dan cyn-reolwr Man U, Louis van Gaal rhwng 2014 a 2016.

Cafodd ei ddiswyddo o glwb Genk cyn y Nadolig, ac yntau wedi bod yn rheolwr ar y tîm sydd yn Uwch Gynghrair Gwlad Belg.

Fe dreuliodd e gyfnod yn hyfforddwr ieuenctid yn Feyenoord ac Al Jazira, ac yn rheolwr ar dimau dan 17 a dan 21 yr Iseldiroedd.