Mae dyn o Bontypridd wedi ei garcharu am ddwy flynedd a hanner am greu gwerth £430,000 o steroids mewn labordy tanddaearol.

Bellach mae awdurdodau wedi darganfod bod gan Nathan Maddock, 40, fflat ym Mwlgaria, tŷ yn Nhwrci a sawl tŷ oedd yn cael eu rhentu ym Mhorth yn y Rhondda.

Mae’r diffynnydd wedi pledio’n euog i ddeg cyhuddiad o feddu ar steroids gyda’r bwriad o’u darparu, ac un cyhuddiad o eiddo troseddol.

Fe gafodd ei ddedfrydu i garchar yn Llys y Goron Caerdydd.

Cefndir

Cafodd Nathan Maddock ei arestio fis Tachwedd 2016 wedi i heddlu gynnal chwiliadau yn ei dy ym Maes y Wennol a dod o hyd i steroidau a deunydd i’w creu.

Pythefnos ar ôl cael ei arestio gwnaeth e’ gydnabod ei fod yn gyfrifol am gynhyrchu steroids.

Er hynny, dywedodd ei fod wedi eisiau rhoi’r gorau iddi ond methu oherwydd doedd y person oedd yn gyfrifol am y fenter ddim yn gadael iddo.