Mae Aelod Seneddol Llafur o Gymru wedi cyhuddo plaid ei hun o rwystro dadl yn Nhŷ’r Cyffredin tros gyfreithloni canabis.

Cynrychiolydd Gorllewin Casnewydd, Paul Flynn, wnaeth alw am ddadl ar y bil, ond methodd â chael ei thrafod oherwydd gwnaeth dadl flaenorol bara yn rhy hir.

Mae Paul Flynn wedi cyhuddo aelodau o gynllwynio i sicrhau bod hyn yn digwydd.

“Ffilibystriad yw hyn sydd wedi’i drefnu gan blaid benodol, ac mae arna’i gywilydd i ddweud fy mod yn aelod o’r blaid honno,” meddai Paul Flynn.

Yn sgil hyn, mae dadl ar y Bil Cyfreithloni Canabis (Er Dibenion Meddygol) wedi cael ei ohirio tan Orffennaf 6.

Mae Paul Flynn eisoes wedi mynnu bod cymdeithas cleifion a dau gomisiynydd heddlu yn cefnogi ei fil.