Mae Plaid Cymru wedi diarddel  ei changen yn Nhref Llanelli “dros dro”, a hynny am “dorri rheolau sefydlog y Blaid”.

Nid oes gan y gangen yr hawl i gyfarfod, i gael presenoldeb ar y cyfryngau nac i gymryd rhan  ym materion gweithredol y Blaid.

Yn ôl y Blaid, mae gweithredodd y gangen wedi peri niwed i enw cyhoeddus Plaid Cymru wrth fynd yn “groes i gymalau cyfrinachedd y broses achwynion”.

Ym mis Hydref, cafodd dau aelod o Blaid Cymru yn Llangennech ger Llanelli eu gwahardd a hynny yn dilyn dadlau dros ymgyrch y blaid yn yr etholiad cyffredinol yn etholaeth Llanelli.

Doedd aelodau lleol y blaid ddim yn hapus gyda’r dewis ymgeisydd – Mari Arthur – ac wedi ffafrio cael Sean Rees, cynghorydd tref lleol i sefyll.

Roedd aelodau wedi cyflwyno cyfres o gwynion am Mari Arthur, ac un o’r rheiny oedd ei bod wedi cloi rhai o’i chyd-Bleidwyr allan o swyddfa’r Blaid yn Llanelli.

“Mae cangen Tref Llanelli wedi ei diarddel dros dro am dorri rheolau sefydlog y Blaid,” meddai llefarydd ar ran Plaid Cymru heddiw.

“Ystyriwyd gweithredoedd y gangen yn niweidiol i enw cyhoeddus y Blaid ac yn groes i gymalau cyfrinachedd y broses achwynion.

“Rydym yn gweithio’n barhaol i adfer y sefyllfa yn yr ardal ac yn benderfynol o ganfod datrysiad cyflym ble fo pawb yn cydweithio mewn modd effeithiol a pharchus.”

Tacteg i “dawelu”

Ond yn ôl Gwyn Hopkins, un o’r ddau aelod o gangen Llangennech gafodd eu gwahardd ac un sydd wedi bod yn ymgyrchu dros y Blaid am 44 o flynyddoedd, tacteg i “dawelu” aelodau lleol yw’r diarddel.

“Maen nhw eisiau eu tawelu nhw, dyna’r rheswm gwreiddiol, fel maen nhw wedi gwneud i fi a Meilyr Hughes [yr aelod arall cafodd ei wahardd],” meddai Gwyn Hopkins wrth golwg360.

“Dyna’r unig ffordd mae Alun Ffred [Cadeirydd y Blaid] yn gweld i dawelu ni achos rydym ni’n fodlon sefyll lan dros egwyddorion… roedd rhaid tawelu ni, dyna beth sydd wedi digwydd i gangen y dref hefyd.

“Mae’r holl ddadlau am ymgeisydd oedd gyda ni blwyddyn ddiwethaf yn yr etholiad cyffredinol, ei hagwedd hi a sut mae wedi gweithredu ers hynny.

“Mae swyddfa’r Blaid yn wag yn Llanelli nawr, pob dydd o’r wythnos. Mae allweddi’r swyddfa ganddi ac felly dw i ddim yn deall fel mae hwnna’n mynd i hyrwyddo achos y Blaid yn Llanelli.

“Mae arweinyddiaeth y Blaid – Gareth Clubb [y prif weithredwr] a Leanne Wood ac Alun Ffred – maen nhw wedi cefnogi beth mae hi’n gwneud yn llwyr.”

Arweinyddiaeth “anonest a diegwyddor”

Mae Gwyn Hopkins yn dweud ei fod yn poeni dros ddyfodol y Blaid ac yn dweud na fydd yn ail-ymuno â hi tan fod “Mari Arthur yn symud nôl i Gaerdydd”.

“Yn sicr, dw i’n poeni. Dw i wedi canfod arweinyddiaeth y Blaid dros y naw mis diwethaf yn anonest ac yn ddiegwyddor.

“Dw i wedi ymddiswyddo mewn llythyr i Gareth Clubb. Dw i’n dweud yn gwbl blaen yn y llythyr bod fi ddim yn mynd i ystyried ail-ymuno â’r Blaid tan fod Mari Arthur yn mynd nôl i Gaerdydd lle mae’n byw ac yn aros yna.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb Plaid Cymru i sylwadau Gwyn Hopkins.