Bydd mudiad y Campaign for Nuclear Disarmament – CND – yn dathlu ei ben-blwydd yn 60 yng Nghaernarfon heddiw drwy daflunio logo eiconig ar gastell y dref.

Mae’r dathliad yn rhan o daith ledled gwledydd Prydain i nodi’r pen-blwydd arbennig yr ymgyrch i ddiarfogi arfau niwclear.

Mae’r mudiad yn gwahodd pobol yr ardal i fynd i’r Maes, ger Castell Caernarfon rhwng tri a phump o’r gloch prynhawn yma i rannu eu straeon nhw am hanes yr ymgyrch.

Bydd logo CND, a fydd yn cael ei daflunio ar y castell, dros naw medr o hyd a 2.4 medr o uchder.

“Daeth logo CND yn symbol rhyngwladol o heddwch ac mae’n adlewyrchu cryfder y mudiad heddwch, yn enwedig yma ym Mhrydain, a’r dadleuon y mae wedi gwneud yn erbyn arfau niwclear dros y chwe degawd diwethaf,” meddai Sara Medi o CND.

“Gallwch chi deithio i unrhyw ran o’r byd, dangos y symbol ac mae’n cael ei adnabod a’i ddeall yn syth…

“60 o flynyddoedd ers geni CND, ar gyfnod pan fo rhyfel niwclear i’w weld mor debygol ag erioed, mae’r symbol yn gyfle i ni gyd feddwl am rôl sefydliadau cymdeithas sifil, yr angen amdanyn nhw i gadw llywodraethau i gyfrif, ynghyd â meddwl am sut y gallwn adeiladu byd heb arfau niwclear.

“Mae gwahoddiad i bawb i ddod yma i dynnu lluniau a rhannu eu straeon.”

Cefndir CND

Cafodd y mudiad ei sefydlu yn 1958 yn ystod y Rhyfel Oer.

Fel rhan o brotestiadau’r mudiad, cafodd Gwersyllfa Heddwch i Fenywod ei sefydlu y tu allan i safle’r awyrlu brenhinol yng Nghomin Greenham yn yr 1980au lle’r oedd arfau niwclear yn cael eu cadw.

Dyna le cafodd Helen Wyn Thomas, merch 22 oed o Gastell Newydd Emlyn, ei lladd.

Mae Jeremy Corbyn, arweinydd y Blaid Lafur, Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru, Nicola Sturgeon, arweinydd yr SNP a Caroline Lucas o’r Blaid Werdd i gyd yn cefnogi’r mudiad.