Mae Cyngor Tref Caergybi wedi buddsoddi mewn baner anferthol o’r Ddraig Goch er mwyn ei arddangos yn ystod dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yno.

Bydd y faner anferthol sy’n naw metr ar ei hyd, yn cael ei dadorchuddio yn ystod Parêd Gŵyl Dewi Caergybi ar Fawrth 1, cyn ymddangos fel cefndir llwyfan ar gyfer cyngerdd Ysgol Uwchradd Caergybi.

Bydd y parêd yn cychwyn am 9.30 y bore yn Eglwys Santes Fair ac yn ymlwybro tuag at  Draeth Newry gan basio Stryd y Farchnad ac Eglwys Cybi ar y ffordd.

Yn ymuno â’r dathliad fydd rhai o actorion o’r opera sebon Rownd a Rownd gan gynnwys Gwion Tegid (Barry) a Ceri Llwyd (Carys).

Croesawu ymwelwyr

“Mae Cyngor y Dref yn gefnogol iawn i bobl ifanc Caergybi ac wedi gweld y Parêd Gŵyl Dewi fel cyfle gwych i ddathlu traddodiad y dref a hyrwyddo ein busnesau lleol,” meddai Maer Caergybi, Ann Kennedy.

“Ers canrifoedd mae Caergybi wedi bod yn borthladd sy’n croesawu ymwelwyr i Gymru, felly addas iawn yw i ni gael baner fawr ysblennydd ar gyfer ein dathliadau cymunedol er mwyn croesawu mwy fyth o ymwelwyr yma.”