Mae bwyty yn ne Cymru wedi eu coroni’n ‘Safle Bwyty Newydd Gorau’ mewn seremoni arbennig yn Llundain.

Roedd Bistrot Pierre o Abertawe, wedi’u gosod yn yr un categori â bwytai o Lundain a Rhydychen, ac mi ddaethon nhw i’r brig er gwaetha’r ffaith eu bod ond wedi agor yn gymharol ddiweddar.

Yn ystod noson y Casual Dining Awards dywedodd beirniaid bod y bwyty o’r Mwmbwls yn deilwng oherwydd eu cyfraniad i’w hardal leol.

Mae Bistrot Pierre ar agor bob diwrnod o’r wythnos ac yn gweini bwyd Ffrengig gan gogyddion sydd wedi’u hyfforddi yn Ffrainc.

Croeso anhygoel

“Cawsom groeso anhygoel gan Abertawe ym mis Mai [pan agorodd y bwyty],” meddai  pennaeth marchnata’r bwyty, Arpita Anstey.

“Ac ers hynny rydym wedi llwyddo sefydlu grŵp ffyddlon o giniawyr, ac rydym yn credu ein bod wedi dod â rhywbeth newydd a ffres i’r ardal.

“Yn wir, y Mwmwbwls yw’r lle i fynd os ydych am fynd ar wyliau yn ne Cymru.”