Mae un o fyfyrwyr Prifysgol Bangor wedi datblygu ap sy’n datrys un o broblemau bach blinderus bywyd… mae’r ap ‘Hummit’ yn galluogi pobol sy’n medru cofio alaw cân – ond nid ei henw – i’w hymio er mwyn canfod teitl y gân.

Mae’r ap ‘Hummit’ yn rhoi’r cyfle i unigolyn recordio ei hun yn hymian cân, ac yna mae’r hymian hwnnw yn cael ei rannu ymysg defnyddwyr eraill yr ap, er mwyn ceisio canfod y teitl.

Joey Elliott, 22, o Groesoswallt, sy’n gyfrifol am ‘Hummit’, ac mae modd ei lawr lwytho i ffonau sydd â meddalwedd Android, iOS a Windows.

Magu sgiliau

“Dim ond chwe mis  a gymerodd i mi adeiladu Hummit  o’r cychwyn hyd nes ei fod yn barod i’w ryddhau,” meddai Joey Elliott sy’n astudio peirianneg electroneg.

“Mae datblygu’r project hefyd wedi rhoi cyfle i mi fagu nifer o sgiliau gwerthfawr i’w nodi ar fy CV,  fel profiadau gyda AWS (Amazon Web Services) a Xamarin (platfform meddalwedd o eiddo Microsoft).”