Mae blaenores hynaf Cymru wedi’i rhoi i orffwys heddiw.

Roedd Dilys O’Brien Owen o fewn pythefnos i gyrraedd ei phen-blwydd yn 103 oed pan fu farw ddydd Iau diwethaf, Chwefror 15, ac yn byw ym mhentref Pen-y-groes ger Caernarfon.

Roedd wedi treulio’i hoes yn ymgyrchu tros heddwch a chyfiawnder yn y byd; yn cyfrannu’n dawel i elusennau; ac yn llythyru â gwleidyddion lleol, Prydeinig, a hyd yn oed arlywyddion yr Unol Daleithiau ar faterion cyfoes o bob math.

Er iddi gael ei geni yn Swydd Efrog, a threulio’i phlentyndod yn Ellesmere Port, o Ben-y-groes yr oedd teulu ei mam yn hanu.

Ac er iddi adael yr ysgol yn 16 oed, cyn cwblhau ei harholiadau ‘Higher’ yng Nghaer, roedd hi wedi dysgu Ffrangeg a Sbaeneg mewn dosbarthiadau nos yn ddiweddarach; ac roedd hi’n ddarllenwraig awchus mewn pedair iaith tan y diwedd.

Fe anwyd Dilys O’Brien Owen ar Fawrth 3, 1915, a’i chodi’n flaenor yng nghapel Cymraeg Ellesmere Port yn 1943 pan oedd y sêt fawr a’r cyfarfodydd misol yn llawn dynion yn unig.

Yn ddiweddarach eleni, fe fyddai wedi cyflawni 75 mlynedd yn y swydd wirfoddol yr oedd hi bellach yn ei gwneud yn dawel yng Nghapel y Groes, Pen-y-groes.