Doedd Cymru ddim yn gallu cytuno heddiw ar welliannau Llywodraeth San Steffan i Fesur Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd – a hynny am nad oedd digon o fanylion iddyn nhw.

Yn ol yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, sy’n cynrychioli Llywodraeth Cymru ar drafodaethau Brexit gyda Llundain, dydyn nhw “ddim cweit yna eto” ond bod cynnydd wedi’i wneud.

“Dydyn ni ddim wedi gwrthod,” meddai wrth golwg360. “Mae’n gam ymlaen, ac rydyn ni’n cydnabod hwnna ond dyw’r manylion ddim lle ni’n gallu bod yn ddigon hyderus am sut fydd y ffordd newydd yn rhedeg.

“Felly rydyn ni wedi cytuno i ddod at ein gilydd unwaith eto wythnos nesa’ gobeithio, gydag ewyllys da ar bob ochr. Ond dydyn ni ddim yna heddiw.”

Mewn cyfarfod o’r Cydbwyllgor Gweinidogion heddiw, roedd Llywodraeth Prydain wedi cynnig bod y “mwyafrif helaeth” o bwerau o Frwsel yn mynd yn syth i’r llywodraethau datganoledig wedi i Brexit ddigwydd.

“Cam ymlaen”

Ond mae Llywodraeth Cymru yn poeni am y pwerau fydd yn cael eu cadw nôl ac yn dweud nad oes manylion ar y ffordd fydd y pwerau hynny’n cael eu defnyddio yn y dyfodol.

“Mae hwnna yn gam ymlaen i gytuno ar y mwyafrif o bwerau ond mae hwnna’n golygu y bydd rhai pethau maen nhw eisiau cadw yn nwylo San Steffan,” meddai Mark Drakeford.

“Nawr, be’ ni’n dweud yw, os ydyn ni’n mynd i wneud e fel’na, sut ydyn ni’n mynd i gytuno ar y pethau sy’n mynd i aros yn San Steffan, faint o amser maen nhw’n mynd i aros yn San Steffan a phwy sy’n gallu defnyddio’r pwerau yna pan nad ydyn nhw yn nwylo’r Cynulliad Cenedlaethol…

“Y manylion rydym ni’n eu trafod nawr, dydyn ni ddim cweit yna ar y manylion. Ry’n ni eisiau rhoi rhai syniadau ymarferol ar sut gallwn ni gytuno ar y manylion yna.

“… Dydyn ni ddim cweit yna eto, roedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cymryd cam ymlaen, maen nhw wedi rhoi rhai pethau ar y bwrdd sy’n helpu.

“Mae rhai syniadau ni’n fodlon eu rhoi ar y bwrdd i weld os ydyn ni’n gallu dod at y pwynt rydyn ni eisiau dod lle ni’n gallu cytuno ar y ffordd ymlaen.”

Cyfarfod arall wythnos nesaf

Mae’r pwyllgor bellach yn gobeithio cwrdd am gyfarfod brys yr wythnos nesaf i geisio cael cytundeb cyn bod y Bil Ymadael wedi mynd drwy Dŷ’r Arglwyddi.

“Mae yn arwyddocaol… mae’r gloch yn canu,” meddai Mark Drakeford am y cyfarfod o’r Cyd-Bwyllgor Gweinidogion nesaf, sydd fel arfer dim ond yn cwrdd llond llaw o weithiau’r flwyddyn.

“Does dim wythnosau gennym ni, mae’r bil o flaen Tŷ’r Arglwyddi ar hyn o bryd.. Felly dyna pam bod hi’n bwysig bod ni’n cael cyfarfod mor fuan ag sy’n bosibl.”