Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn a gafodd ei ddarganfod yn farw mewn coedwig yng Nghas-gwent ar ddydd San Ffolant (ddydd Mercher diwethaf).

Fe gafodd corff Mathew Treggiden, 43 oed, ei ganfod mewn coedwig ger Heol Clamp, ar ôl iddo fod ar goll ers dechrau mis Rhagfyr y llynedd.

Mae ei deulu wedi’i ddisgrifio fel person “caredig a thyner”, ac yn dweud y bydd yna “golled” ar ei ôl.

Nid yw’r heddlu’n trin ei farwolaeth fel un amheus ar hyn o bryd.