Os byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb ddêl, mi fydd rhai diwydiannau gwledig yn cael eu taro’n “hynod o galed”, meddai un o swyddogion Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA), corff sydd wedi cyfrannu at adroddiad diweddar ar y mater.

Mae Tim Peppin yn dweud y gallai amaeth a physgodfeydd ddioddef pe baem yn cefnu ar Ewrop ac yn cyflwyno sustemau newydd a thollau.

“Pe taswn yn cyflwyno gwiriadau mewn porthladdoedd (customs checks) byddai’r sustem yn cael ei oedi, felly byddai’r sector pysgodfeydd yn enwedig, yn dioddef,” meddai wrth golwg360.

“Mae llawer o’r pysgod cregyn sy’n cael eu dal ar arfordir Cymru yn cael eu hallforio i’r Undeb Ewropeaidd lle maen nhw’n cael eu prosesu a’u gwerthu i lefydd eraill.

“Pe tasai’r cynnyrch yna’n cael ei oedi yn y porthladdoedd, yn amlwg ni fydd mor ffres yn cyrraedd. Ac mae hynny yn ei dro yn peri’r risg o ddinistrio marchnadoedd, oherwydd ni fydd prynwyr eisiau’r cynnyrch yna mwyach.”

Senarios

Yn ôl Tim Peppin mae adroddiad y corff yn edrych ar dair senario benodol sef:

  • Prydain yn methu â tharo dêl a’n gorfod dibynnu ar reolau a thollau Sefydliad Masnach y Byd
  • Prydain yn taro bargen masnach â’r Undeb Ewropeaidd (UE)
  • Prydain yn taro bargen â’r UE, yn ogystal â chytundebau masnach â gwledydd tu allan i’r UE

Mae’n nodi bod canfyddiadau pob trywydd yn “eitha’ tebyg” ac er bod awduron yr adroddiad wedi ceisio osgoi dyfalu ar hyd pa un yr awn, mae’n ffyddiog na fydd unrhyw un ohonyn nhw’n cael eu gwireddu yn y pendraw.