Mae’r Ysgrifennydd dros Faterion Gwledig ym Mae Caerdydd wedi dweud wrth Lywodraeth y Deyrnas Unedig ei bod yn fodlon cydweithio tros Brexit a ffermio – os bydd yr ymwneud yn gyfartal.

“Mae hynny’n golygu trafodaethau teg, ac yn bwysicach na dim, ariannu teg,” meddai Lesley Griffiths wrth undeb yr NFU yn Birmingham.

“Fydda i’n para i fynnu nad yw Cymru’n colli’r un ddimai goch ac mi fydda’ i’n brwydro dros gadw arian sy’n dod yn ôl i Gymru yng Nghymru.”

Ymateb i Gove

Daw hyn yn sgil sylwadau gan Ysgrifennydd Amgylchedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Michael Gove, yn y gynhadledd yn gynharach yn y prynhawn, pan ddywedodd y bydd “mwy o rym” yn dod i wledydd datganoledig fel Cymru yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Ac fe osododd flaenoriaethau gan gynnwys cadw ffermwyr ar y tir a rhoi “nwyddau cyhoeddus” – adnoddau hamdden, bywyd gwyllt ac amgylchedd – i bobol Cymru.

Roedd hi hefyd yn pwysleisio’r angen am barhau i gynhyrchu bwyd, mewn ffyrdd cynaliadwy.