Mae un o’r prif dystion yn yr ymchwiliad i honiadau fod y Prif Weinidog wedi torri Cod y Gweinidogion yn honni fod yna ymgais fwriadol i danseilio pobol sydd wedi siarad o blaid y cyn-Weinidog Carl Sargeant.

Mae Leighton Andrews, cyn-Weinidog yn y Llywodraeth, yn dweud bod rhywrai wedi bod yn gofyn cwestiynau rhyddid gwybodaeth “maleisus” amdano gyda’i gyflogwyr a bod gweision cyhoeddus eraill wedi diodde’ mewn ffordd debyg.

Mae wedi cyhoeddi peth o’r dystiolaeth mewn blog gan ddyfynnu rhai o’r cwestiynau sy’n holi am ei gysylltiadau â’r cyfryngau – gan gynnwys cylchgrawn Golwg – ac am wrandawiadau disgyblu y mae wedi bod yn rhan ohonyn nhw.

‘Unigolion nid y blaid’

“Dw i’n methu â dweud â sicrwydd pwy sydd y tu ôl i hyn,” meddai wrth golwg360 heddiw. “Ond yr hyn dw i yn ei wybod ydy bod llawer o bobol wedi’u targedu mewn modd eitha’ annifyr yn ddiweddar. Ac mae’n ymddangos bod yna batrwm.”

Er nad oedd yn amau’r Blaid Lafur “fel sefydliad”, roedd yn amau bod “unigolion” ynddi yn gyfrifol – “rhaid i’r ymosodiadau beidio ac mae’n rhaid i gymrodyr yn Llafur Cymru wneud yn siŵr eu bod nhw.

“Dw i wedi rhoi gwybod yn rheolaidd i gadeirydd Llafur Cymru am yr ymosodiadau arna’ i a dw i’n ddiolchgar iddo am ei agwedd gefnogol,” meddai Leighton Andrews.

“Mae’n niweidiol iawn i ddatganoli, i enw da Llafur Cymru ac i enw da Llywodraeth Cymru.”

Mae Golwg360 wedi gofyn am ymateb y Blaid Lafur – mae’r Cadeirydd wedi cael ei ddyfynnu yn y wasg yn dweud y byddai’n barod i ymchwilio’n llawn i unrhyw gwyn.

Y dystiolaeth

Roedd yn gwrthod dweud pwy oedd wedi eu targedu – yn y blog, mae’n sôn am “nifer o weision cyhoeddus” – ond fe gadarnhaodd wrth golwg360 mai “bygythiadau seicolegol” oedd y rhain.

Mae’n sôn am lythyrau “maleisus a dienw” at gyflogwyr ac, yn ei achos ef ei hun, y ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth at ei gyflogwyr, Prifysgol Caerdydd.

“Yn fy marn i,” meddai yn y blog, “mae’r ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth hyn yn faleisus ac wedi’u bwriadu i danseilio fy enw da a fy nifrïo.”

Mae Leighton Andrews yn dweud ei fod wedi cynnwys deunydd gan bobol sy’n amharod i roi tystiolaeth yn ei gyflwyniad ef ei hun i’r ymchwiliad sy’n ystyried a oedd y Prif Weinidog Carwyn Jones wedi camarwain y Cynulliad trwy wadu bod honiadau o fwlio wedi’u gwneud yn erbyn rhai yn ei Lywodraeth.

Mae hefyd wedi cefnogi barn pobol sy’n anghyfforddus am fod yr ymchwiliad yn digwydd yn adeiladau Llywodraeth Cymru.