Cafodd 3,100 achos o drosedd rhyw yn erbyn plant eu cofnodi gan luoedd heddlu yng Nghymru’r llynedd, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.

Roedd y nifer yma yn gynnydd o 15% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol, ac yn golygu bod naw trosedd y dydd yn cael eu cofnodi.

Yn ôl y ffigurau sydd wedi eu casglu trwy gais rhyddid gwybodaeth gan elusen blant yr NSPCC roedd tua chwarter yr achosion – 764 – wedi digwydd ar y We.

Yn ôl yr NSPCC eu hunain, datblygiad cam-drin ar lein yw un o’r rhesymau am y cynnydd; mae gwell dulliau cofnodi gan yr heddlu yn un arall.

Y ffigurau ym mhob ardal

Heddlu Dyfed-Powys a welodd y nifer uchaf o droseddau rhyw yn erbyn plant (1,110), ac mae’n debyg yr oedd 764 o’r achosion yng Nghymru yn gysylltiedig â’r we.

Dyma’r manylion:

  • Heddlu Dyfed-Powys: 1,110
  • Heddlu De Cymru: 976
  • Heddlu Gogledd Cymru: 754
  • Heddlu Gwent: 314

 “Cymorth trylwyr a phrydlon”

“Mae’r cynnydd dramatig yma mewn troseddau sydd wedi’u cofnodi yn codi pryder ac yn dangos maint y broblem o gam-drin rhywiol ar blant,” meddai pennaeth NSPCC Cymru, Des Mannion.

“Mae’n bwysig fod plant yn medru cydnabod pan maen nhw’n cael eu cam-drin ac yn medru siarad â rhywun i’w hatal. Dyna pam mae angen cymorth trylwyr a phrydlon i’w helpu i ailadeiladu eu bywydau.”