Roedd nifer yr achosion o’r ffliw yng Nghymru wedi gostwng yr wythnos diwethaf, yn ôl corff Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC).

Ond, er hynny, mae’r lefelau yn parhau’n uwch na’r lefelau gafodd eu cofnodi yn ystod y chwe blynedd diwethaf, yn ôl y corff.

Yn ôl ICC mae achosion newydd yn dal i gael eu cofnodi ac mae’n “bwysig dal ati i gymryd camau i atal ei ledaenu.”

Mae’r corff yn cynnig cyngor ar sut i leihau’r perygl o ledu’r firws trwy ddilyn y tri cham canlynol:

  • pesychu neu disian i hances bapur bob tro;
  • taflu’r hances ar ôl ei ddefnyddio;
  • golchi dwylo neu ddefnyddio glanweithydd llaw i ladd unrhyw firysau ffliw.

Ystadegau

Mae’n debyg bod mwy o bobol yng Nghymru wedi cael brechiad y ffliw eleni nag erioed o’r blaen, gyda 20,000 wedi’u brechu ym mis Ionawr yn unig.

Yn ystod ail wythnos Chwefror gwnaeth 44.3 o bob 100,000 o’r boblogaeth gael diagnosis am salwch tebyg i ffliw – cwymp o gymharu â 53.0 o bob 100,000, yn ystod yr wythnos flaenorol.

Cyngor meddygol

“Does dim rhaid i’r rhan fwyaf o bobl gysylltu â’u meddygfa os ydyn nhw’n meddwl bod ganddyn nhw’r ffliw, ond dylai pobol fwy agored i gymhlethdodau gael cyngor buan,” meddai Dr Richard Roberts o ICC.

“Fe ddylai’r rhai sy’n 65 oed neu’n hŷn, pobol â chyflwr iechyd hirdymor, merched beichiog neu rywun sy’n pryderu am blentyn ifanc ofyn am gyngor gan eu meddygfa, ac felly hefyd y rhai y mae eu symptomau’n dirywio neu ddim yn gwella ar ôl wythnos.”