Mi fydd ffermwr o Drawsfynydd, a fydd yn ymprydio am wythnos er mwyn pwyso am bwerau darlledu i Gymru, yn cwrdd â’r Aelod Cynulliad, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, i drafod y mater heddiw.

Ac mae Elfed Wyn Jones, a oedd wedi galw am y cyfarfod yn Nolgellau, yn dweud ei fod yn “hyderus” y bydd yn cael ymateb ffafriol gan ei Aelod Cynulliad lleol.

“Dw i’n hyderus, i ddweud y gwir, am fod Dafydd Elis-Thomas wedi sôn o’r blaen ei fod o’n credu mewn datganoli darlledu, a dw i’n gobeithio neith o gytuno i fynd â’r mater ymlaen yn y Senedd,” meddai’r ffermwr 20 oed wrth golwg360.

“Edrych ymlaen at ddechrau”

Mi fydd Elfed Wyn Jones, sydd hefyd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn cychwyn ar yr ympryd yfory (dydd Mawrth, Chwefror 20), a hynny er mwyn pwyso am ddatganoli pwerau darlledu i Gymru.

“Dw i’n gobeithio bydd o’n llwyddiant,” meddai eto. “Dw i’n edrych ymlaen at weld beth fydd ymateb y gwleidyddion a’r bobol gyffredin.

“Dw i jyst yn barod i ddechrau.”

Fe fydd yn treulio’r rhan fwyaf o’r saith diwrnod heb fwyd yn swyddfa Cymdeithas yr Iaith yn Aberystwyth.