Mae cannoedd o bobol yn gorymdeithio yn Aberystwyth heddiw i ddangos eu cefnogaeth i Ifan Owens.

Ymhlith y rhai sy’n gorymdeithio o Neuadd Pantycelyn i’r Bandstand mae’r Aelod Seneddol Ben Lake, Llywydd UMCA Gwion Llwyd a Dirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol, Dr Rhodri Llwyd Morgan.

Eu bwriad wrth gynnal yr orymdaith yw dangos bod Aberystwyth yn cefnogi Ifan Owens a’i deulu, a bod y dref yn lle diogel i fyw.

Ymosodiad

Mae Ifan Owens bellach wedi cael ei drosglwyddo o’r uned gofal dwys ar ôl deffro o goma.

Fe fu mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, cyn hynny yn dilyn yr ymosodiad difrifol arno ar Ionawr 14.

“Anhygoel”

“Mae pethau wedi symud i’r gorau,” meddai tad y myfyriwr, Gareth Owens wrth golwg360 yr wythnos ddiwethaf. “Symud ymlaen yn sydyn iawn.”

“Anhygoel o beth i ddweud y gwir. Rydyn ni’n ymfalchïo fel teulu. Nid yn unig am ei wellhad, ond [hefyd am ofal gwasanaethau iechyd].”

Mae Gareth Owens yn tynnu sylw at swyddogion cyswllt teulu, staff yr uned gofal dwys, a staff Ysbyty Bronglais Aberystwyth (lle bu am gyfnod) ac yn eu canmol am eu gwasanaeth “anhygoel”.

Mae’n nodi bod Ifan Owens yn “hollol effro” ac yn medru mwmian, gwneud ystumiau, ac agor ei lygaid; ond mae’n cydnabod y bydd y broses o wella yn “broses hir iawn”.