Mae nifer o bobol yn adrodd am ddirgryniad ledled Cymru y prynhawn yma.

Roedd i’w deimlo i ddechrau yn Abertawe, Castell-nedd, Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr, Pontypridd a Chaerdydd, yn ogystal â de orllewin Lloegr.

Mae adroddiadau bellach fod rhywrai wedi’i deimlo yn y gogledd hefyd, yn ogystal â Sir Amwythig.

Mae Arolwg Daearegol Prydain yn dweud mai yng Nghwmllynfell yr oedd uwchganolbwynt y dirgryniad, oedd yn mesur 4.2 ar raddfa Richter – y digwyddiad mwyaf o’i fath ers dros ddegawd.