Mae dyn o Gymru fu’n ddifrifol wael yn yr ysbyty yn Bangkok ar ei ffordd yn ôl i Gymru yn dilyn ymgyrch.

Cafodd neges ei rhoi ar dudalen Go Fund Me yn dweud bod Ifor Glyn, sy’n wreiddiol o Flaenau Ffestiniog ond sy’n byw a gweithio yn Abertawe, ar awyren i Heathrow ers 4.45 y bore yma.

Mae’n cael ei gludo’n ôl gyda’i fam, ei frawd a’i chwaer, ynghyd â nyrs ac fe fydd yn cyrraedd y maes awyr am oddeutu 6 o’r gloch heno. Fe fydd ambiwlans yn ei gludo i ysbyty lle bydd yn parhau i dderbyn triniaeth.

Dywedodd Gwil Roberts, sylfaenydd ymgyrch codi arian ar wefan Go Fund Me, na fydd y teulu’n derbyn rhagor o roddion drwy’r wefan, ac y bydd yr holl arian yn cael ei ddychwelyd i’r rhai sydd wedi rhoi eisoes.

Roedd cwmni yswiriant yn gwrthod talu i Ifor Glyn gael dod adre’, ond mae’n ymddangos erbyn hyn eu bod nhw wedi gwneud tro pedol.

‘Diolch o galon’

Dywed y dudalen: “Mae’n ymddangos oherwydd eich caredigrwydd chi a’r sylw yn y wasg tuag at yr ymgyrch yma, mi ildiodd y Cwmni Yswyriant a talu costau ysbyty Ifor, gyrru nyrs o Brydain i’w asesu ac i deithio ynol i Brydain gydag o a’r teulu fel da ni yn siarad – rhywbeth y gallent ac y dylent wedi neud o leia tair wythnos yn olgan arbed llawer o boen a straen ar y teulu!

“Ein gobaith rwan ydi y gaiff Ifor a’r teulu siwrne ddiogel yn ôl i Brydain dros yr oriau nesaf ac y caiff o y gofal gorau posib er mwyn gwella wedi iddo gyrraedd.”

Mae’r neges yn gorffen drwy “[d]diolch o galon i chi am eich caredigrwydd a’ch cefnogaeth”.