Mae cyfrifydd o Gymru wedi cael ei garcharu am saith mlynedd am ddwyn £1.8 miliwn oddi ar lywodraeth Bermiwda a’i fuddsoddi mewn eiddo a cheir yng ngwledydd Prydain.
Roedd Jeffrey Bevan, 50, yn gweithio fel rheolwr taliadau yn y wlad rhwng 2011 a 2013.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd cyn ddoe nad oedd modd ei erlyn am ddwyn yr arian gan ei fod e bellach wedi dychwelyd o’r wlad.
Ond fe gyfaddefodd y dyn, sy’n byw yng Nghwmbrân ac yn dad i ddau o blant, ei fod e wedi trosglwyddo £1.3 miliwn i fanc yng ngwledydd Prydain.
Cafodd ei garcharu am saith mlynedd a phedwar mis ar ôl pledio’n euog i dri achos o drosglwyddo eiddo’n anghyfreithlon a deg achos o droi eiddo troseddol. Fe ddefnyddiodd yr arian i dalu £140,000 o forgais, buddsoddi mewn unarddeg eiddo ac i brynu dau gar Mercedes Benz.
Troseddau
Roedd e wedi defnyddio’r arian i brynu fflat ym Marina Abertawe, sawl gwyliau i’r Caribî a gwledydd eraill, a chyfrannau mewn ceffylau rasio.
Roedd 52 achos gwahanol o ddwyn arian dros gyfnod o ddwy flynedd, er ei fod yn honni ei fod e wedi cael yr arian yn gyflog gan lywodraeth Bermiwda.
Ymddiswyddodd o’i waith yn 2013 cyn dychwelyd i wledydd Prydain, ac fe ddaeth ei dwyll i’r amlwg fisoedd yn ddiweddarach.
Clywodd y llys ei fod yn gaeth i gamblo.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu’r De nad oes “ffiniau daearyddol” wrth dorri’r gyfraith.