Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi enwi dyn 43 oed fu farw mewn gwrthdrawiad yn Hwlffordd.

Daeth Mark Waite o Ddoc Penfro oddi ar ei sgwter yn dilyn gwrthdrawiad â thancer llaeth ddydd Iau.

Digwyddodd y gwrthdrawiad am oddeutu 4.30pm pan oedd y ddau gerbyd yn teithio i’r un cyfeiriad.

Mae’r heddlu’n apelio am dystion.