Mae’r heddlu’n ymchwilio i ymosodiad rhywiol a ddigwyddodd yn ardal Townhill yn Abertawe yn ystod oriau mân y bore heddiw (dydd Gwener, Chwefror 16).

Digwyddodd yr ymosodiad ar fryncyn rhwng 2yb a 6.45yb ar fryncyn.

Yn ôl yr heddlu, fe ymosododd dyn â gwallt tywyll sy’n britho ar y fenyw. Y gred yw ei fod tua 5 troedfedd o daldra, ac yn denau o ran corffolaeth.

Mae’r dioddefwraig ar hyn o bryd yn derbyn cefnogaeth, ac mae’r heddlu yn galw ar i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar y rhif 101.