Mae’n ymddangos na fydd rhifyn o bapur newydd Y Cymro ar gael ar Fawrth 1 eleni – er bod y grwp sydd y tu ôl i’r fenter yn dweud eu bod yn “gobeithio” cynnal lansiad ymhen pythefnos, ar Ddydd Gwyl Dewi.

Ond fe ddaeth cadarnhad hefyd gan Gyfeillion y Cymro nad oes golygydd wedi’i benodi eto ar y papur, na rhestr o gyfranwyr na cholofnwyr ar gael.

Er hyn, y bwriad ydi cyhoeddi rhifyn o’r papur “ar ryw adeg” yn ystod mis Mawrth.

Ddiwedd y llynedd, fe gyhoeddodd y Cyfeillion, dan gadeiryddiaeth Lyn Ebenezer, eu bwriad i gyhoeddi rhifyn cyntaf o’r Cymro ar ei newydd wedd, ar Fawrth 1, 2018. Ac, yn hytrach na dod allan bob wythnos wedi hynny, misolyn fydd y papur o hyn allan, tra’n cynnal gweithgarwch ac yn cyhoeddi ar y we yn gyson.

Cefndir

Fe ddaeth cadarnhad  Cyfeillion Y Cymro ym mis Tachwedd y llynedd bod y papur newydd yn mynd i gael ei atgyfodi â chymorth grant gan Gyngor Llyfrau Cymru.

Maen nhw wedi cael sicrwydd y byddan nhw’n derbyn grant o £13,500 ar gyfer gweddill blwyddyn ariannol 2017/18, ac yn parhau gyda nawdd o £18,000 ar gyfer y flwyddyn ariannol 2018/19.

Ddechrau Rhagfyr, roedd y papur yn gobeithio cyflogi aelod o staff i werthu hysbysebion ac i farchnata’r papur.