Mae Llywydd y Cynulliad ac arweinwyr y pleidiau gwleidyddol yng Nghymru wedi cytuno ar bolisi ‘urddas a pharch’ newydd i fynd i’r afael ag achosion o aflonyddu yn y dyfodol.

Mae Cadeirydd Pwyllgor Safonau’r Cynulliad, Jayne Bryant, hefyd wedi cytuno ar gyflwyno’r polisi newydd.

Bydd y polisi yn nodi’r disgwyliadau a chod ymddygiad sydd i’w ddisgwyl gan Aelodau etholedig, ynghyd â’i staff.

Mae’r polisi ar ei ffurf ddrafft ar hyn o bryd a bydd yn mynd at Aelodau Cynulliad eraill, ei staff a’r undebau llafur, er mwyn iddyn nhw gytuno arno.

Mae disgwyl i gynnig trawsbleidiol gael ei gyflwyno yng Nghyfarfod Llawn y Senedd cyn y Pasg er mwyn cymeradwyo’r polisi “cliriach” yn ffurfiol.

“Rydym wedi bod yn canolbwyntio ar ddatblygu polisi Urddas a Pharch a fydd yn datgan yn glir ein disgwyliadau o ran ymddygiad personol ac yn nodi’n glir beth yw’r prosesau cwyno, fel bod pawb, pwy bynnag ydynt, yn gwybod sut a ble i drafod unrhyw faterion neu bryderon,” meddai’r datganiad ar y cyd.

Ac mae’r Llywydd, Elin Jones, wedi gofyn i Gomisiynydd Safonau’r Cynulliad, Syr Roderick Evans, adolygu sut gall bolisïau’r pleidiau gwleidyddol gyd-fynd gyda’r polisi urddas a pharch newydd.

Mesurau eraill

Daw cyhoeddiad hefyd bod llinell ffôn a blwch e-bost cyfrinachol wedi’u sefydlu er mwyn i staff allu gwyno am ymddygiad amhriodol yn gyfrinachol.

Ac mae’r Pwyllgor Safonau yn ystyried symleiddio’r prosesau presennol wrth wneud cwyn am ymddygiad Aelod Cynulliad er mwyn i bobol wybod at bwy mae gwneud cwyn a chael mwy o hyder yn y system. Bydd ymchwiliad y pwyllgor ar hyn yn dod i ben ym mis Mai.

Yn ogystal â hyn, bydd hyfforddiant yn cael ei roi i staff y Cynulliad – gan gynnwys Aelodau – i godi ymwybyddiaeth o aflonyddwch.

“Mae’r datganiad hwn a’r gwaith a wnaed hyd yma yn dangos ein hymrwymiad i barhau i gydweithio ar sail drawsbleidiol i gyflawni ein nodau,” meddai.

“Rydym yn cydnabod bod mwy i’w wneud er mwyn sicrhau bod y Cynulliad yn lle sy’n rhydd o aflonyddwch.”

Torri’u henwau

Mae’r datganiad wedi’i arwyddo gan:

  • y Llywydd, Elin Jones;
  • Jayne Bryant AC, cadeirydd y Pwyllgor Safonau,;
  • Carwyn Jones, arweinydd Llafur Cymru;
  • Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig;
  • Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru;
  • Neil Hamilton, arweinydd UKIP Cymru;
  • Kirsty Williams, Aelod Cynulliad yn enw Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.