Mae cwmni archfarchnad Tesco wedi penderfynu cau eu canolfan alw yng Nghaerdydd – gan olygu y bydd dros fil o  weithwyr yn colli eu swyddi.

Dim ond y mis diwethaf y cyhoeddodd Tesco y byddai’n cael gwared ar 1,700 o swyddi ledled gwledydd Prydain mewn ymdrech i “symleiddio” strwythur y cwmni ac arbed costau.

Ond er eu bod nhw, fel rhan o’u cynlluniau i drawsnewid y cwmni, wedi ceisio osgoi cau’r ganolfan gwasanaeth cwsmeriaid yng Nghymru, maen nhw wedi penderfynu mai cau sydd rhaid.

Mi fydd hyn yn golygu bod 1,100 o swyddi’n diflannu o’r brifddinas, gyda phrif gwasanaeth cwsmeriaid Tesco bellach yn symud i Dundee yn yr Alban.

Mae llefarydd ar ran undeb y gweithwyr, USDAW, yn dweud bod y penderfyniad hwn gan Tesco yn “ergyd drom” nid yn unig i’w haelodau a oedd yn gweithio yn y ganolfan, ond i economi Caerdydd yn gyffredinol hefyd.