Mae DJ sy’n darlledu yn Gymraeg ac yn Saesneg yn dweud ei bod hi’n “galonogol” i glywed BBC Radio Wales yn chwarae cerddoriaeth Gymraeg ar Ddydd Miwsig Cymru (ddydd Gwener diwethaf, Chwefror 9) – a bod angen rhoi “clod” i’r orsaf am wneud.

Wythnos yn union ers y digwyddiad sy’n codi ymwybyddiaeth o gerddoriaeth Gymraeg, mae BBC Cymru wedi cadarnhau wrth golwg360 bod 17 cân Gymraeg ei hiaith wedi cael ei chwarae ar Radio Wales ar Ddydd Miwsig Cymru, ynghyd ag un ddwyieithog, sef ‘International Velvet’ gan Catatonia

“Mae rhaglenni gan Bethan Elfyn ac Adam Walton wastad wedi bod yn wych yn chwarae cerddoriaeth iaith Gymraeg ar Radio Wales,” meddai Huw Stephens wrth golwg360.

“Ond yn fwy diweddar mae Radio Wales wedi chwarae mwy nag erioed o’r blaen. Mae angen rhoi clod i BBC Radio Wales am chwarae caneuon yn yr iaith Gymraeg i gynulleidfa sydd, efallai, ddim wedi clywed e o’r blaen.”

Angen mwy o  ganeuon Cymraeg?

Ond wrth holi DJ Radio Cymru a Radio 1 os oes digon o gerddoriaeth Gymraeg yn cael ei chwarae ar orsafoedd Saesneg yng Nghymru, mae’n diolch bod Radio Cymru ar gael i wneud hynny.

“Dw i wastod wedi meddwl y dyle cerddoriaeth Gymraeg gael eu chwarae yng Nghymru,” meddai.

“Mae gyda ni BBC Radio Cymru, a does dim angen dweud, mae’n Ddydd Miwsig Cymru bob dydd ar BBC Radio Cymru. Ond mae’n galonogol iawn gweld Radio Wales yn chwarae traciau.”