Mae un o brif theatrau cefn gwlad Cymru yn cau ar unwaith oherwydd problemau iechyd a diogelwch.

Ac, ar hyn o bryd, does dim argoel y bydd Theratr Ardudwy Harlech yn ailagor oherwydd yr holl drafferthion ynglŷn â’r safle.

Fe gyhoeddodd Bwrdd Theatr Ardudwy yn Harlech a’r landlord – Addysg Oedolion Cymru – y bydd yr awditoriwm a safle’r theatr yn cau ar unwaith oherwydd iechyd a diogelwch.

‘Cwbl angenrheidiol’

“Yn sgil amodau sy’n dirywio yn y cyfleusterau a’r adeilad – a’r problemau iechyd a diogelwch sy’n dod i’r amlwg o ganlyniad – rydym bellach wedi cytuno â’n landlord, Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales, i gau’r awditoriwm hyd y gellir rhagweld,” meddai Ben Ridler, Cadeirydd y Bwrdd.

“Diogelwch sydd bennaf bob amser ac mae pawb ynghlwm yn cydnabod bod hwn yn gam arwyddocaol ond cwbl angenrheidiol.”

Oherwydd fod ansicrwydd am ddyfodol tymor hir adeiladau Coleg Harlech – lle mae’r theatr –  mae’n dweud nad yw hi ddim yn bosib gwneud y gwaith iechyd a diogelwch angenrheidiol.

‘Problemau difrifol’

Mae “problemau difrifol” wedi dod i’r amlwg ynglŷn ag adeilad y theatr, yn ôl Prif Weithredwr Addysg Oedolion Cymru, Kathryn Robson – yn enwedig gyda’r to.

“Mae costau’r atgyweiriadau helaeth y mae eu hangen yn gostau na allwn ni na Theatr Ardudwy fforddio’u talu ar hyn o bryd,” meddai.

Mae tudalen Facebook yr ymgyrch i achub y Theatr yn dangos plant yn swatio dan flancedi er mwyn gwylio pantomeim yno.

Fe fydd Addysg Oedolion Cymru yn trafod dyfodol yr awditoriwm gyda’r Bwrdd ac yn ystyried lle i gynnal dosbarthiadau addysg oedolion sydd wedi bod yn cael eu cynnal yn adeiladau’r theatr.

Un o’r syniadau ar gyfer dyfodol Coleg Harlech yw gwesty.