Y dyn a helpodd ailddatblygu Canolfan Iaith Nant Gwrtheyrn sydd wedi cael y gwaith o arwain prosiect arall i adfer un o drysorau diwylliannol Cymru.

Mae Jim O’Rourke wedi ei benodi’n Rheolwr Prosiect ar y cynllun i weddnewid yr Hen Goleg ym Mhrifysgol Aberystwyth – adeilad cynta’ Prifysgol Cymru yn ôl yn 1872.

Y cam cynta’ fydd lwyddo gydag ail gam cais i gael mwy na £10 miliwn o arian o Gronfa Treftadaeth y Loteri ar gyfer y gwaith.

‘Balch iawn’

Ac yntau bellach yn byw yn Aberystwyth, fe ddywedodd Jim O’Rourke ei fod yn falch iawn o gael y cyfle i arwain prosiect “mor gyffrous” yn ei filltir sgwâr.

Yn ystod ei gyfnod yn fyfyriwr yng Ngholeg y Brifysgol Aberystwyth yn yr 1970au y daeth i siarad Cymraeg yn rhugl ac yn y dre’ yr oedd hefyd pan oedd yn Brif Weithredwr yr Urdd.

Fe gafodd cwmni o benseiri sy’n arbenigo ar adeiladau hanesyddol eu penodi i wneud y gwaith adnewyddu – cwmni penseiri Lawray Architects o Gaerdydd.