Mae bwrdd arbennig wedi cael ei sefydlu i ymateb i gyfres o broblemau difrifol sy’n wynebu Cyngor Powys.

Yn dilyn pryderon dros wasanaethau cymdeithasol y cyngor, mae Llywodraeth Cymru bellach wedi ymyrryd ymhellach a sefydlu Bwrdd Gwella a Sicrhau a fydd yn rhoi cyngor i’r awdurdod ynglŷn â’I  holl weithgareddau.

Mae adolygiad a gafodd ei gynnal gan gynghorydd allanol i’r Llywodraeth, Sean Harriss, wedi canfod bod heriau a phroblemau “sylweddol” yn wynebu’r cyngor a dywed bod angen y Bwrdd Gwella a Sicrhau er mwyn gwneud “gwelliannau angenrheidiol”.

Y problemau

Yn ôl yr adolygiad, dyw’r cyngor ddim yn sylweddol “faint a hyd a lled y newid sydd ei angen”.

Mae’r problemau, meddai, yn cynnwys “diffyg arbenigedd a chapasiti” i wella gwasanaethau, problemau arwain a’r angen am Brif Weithredwr Tros Dro “profiadol” er mwyn llenwi swydd y Prif Weithredwr presennol sydd o’r gwaith o herwydd salwch.

Dywed hefyd fod angen symleiddio gweledigaeth y cyngor a’i gwneud yn fwy “pellgyrhaeddol” a “thrawsnewidiol.”

Y cefndir

Ym mis Hydref fe wnaeth adroddiad Arolygiaeth Gofal Cymru rybuddio bod plant mewn gofal yn yr awdurdod lleol mewn perygl o niwed o achos methiannau yn y system gofal cymdeithasol.

Ac fe wnaeth y cyngor ymddiheuro’r wythnos hon am “fethu” plentyn 17 oed yn eu gofal a laddodd ei hun am ei fod yn poeni dros adael y system ofal wedi iddo droi yn 18.

Sean Harriss fydd yn arwain y bwrdd newydd a fydd yn helpu’r cyngor dros y chwech wythnos nesa’.

Bydd hefyd yn cynnwys arweinydd y cyngor, yr is-arweinydd, cynrychiolydd yr wrthblaid ac aelodau annibynnol, gan gynnwys Jack Straw, cyn Brif Weithredwr Cyngor Dinas Abertawe, a chadeirydd presennol y Bwrdd Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol.

Ymateb y Cyngor

“Bydd y bwrdd newydd yn disodli’r Bwrdd Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol a sefydlwyd y llynedd ac yn ymgymryd â rôl ehangach i helpu’r cyngor i gydgysylltu’r gwaith sydd eisoes ar y gweill i gyflenwi gwelliannau i’r gwasanaeth,” meddai Rosemarie Harris, arweinydd y Cyngor.

“Mae Powys yn wynebu heriau sylweddol i’w gyllid a’i wasanaethau, ac yn cydnabod y ffaith fod angen cefnogaeth gorfforaethol a strategol ychwanegol iddi pan ofynnodd i Lywodraeth Cymru ddarparu cefnogaeth statudol y llynedd.”