Gwleidyddion ac arbenigwyr ariannol yn condemnio ‘sgandal’ pensiynau durMae angen newidiadau i sicrhau cefnogaeth ac amddiffyniad i weithwyr sy’n wynebu gorfod newid eu polisïau pensiwn, yn ôl Aelod Seneddol ardal Port Talbot lle mae miloedd o weithwyr wedi colli arian sylweddol.

Fe ddywedodd Stephen Kinnock, AS Aberafan, fod rhai o weithwyr dur Tata yno wedi colli symiau sylweddol trwy gael eu twyllo gan gynghorwyr ariannol wrth i gynllun pensiwn y cwmni ddod i ben.

Mae’r hyn sydd wedi digwydd yn “sgandal cenedlaethol”, yn ôl y llefarydd Llafur ar waith a phensiynau, Jack Dromey.

“Rhaid i’r Llywodraeth weithredu ar frys i warchod pensiynau pobol a sicrhau na fydd y fath sefyllfa ddinistriol yn digwydd eto – sefyllfa y byddai modd ei hosgoi.”

‘Anhygoel’

Yn ôl un o’r prif gwmnïau cynghori ariannol, Hargreaves Lansdown, roedd hi’n anhygoel fod y fath gamweithredu’n gallu digwydd, gyda gweithwyr dur yn cael cyngor i drosglwyddo i gynlluniau pensiwn salach.

Yn achos gweithwyr a chyn-weithwyr Port Talbot a gweithfeydd dur eraill Tata yng Nghymru, roedd rhai gweithwyr wedi colli cannoedd o filoedd o bunnoedd wrth gael eu rhuthro i dderbyn cynlluniau pensiwn preifat yn hytrach na’r ddau ddewis swyddogol oedd ar gael.

Mae adroddiad gan Bwyllgor Gwaith a Phensiynau Tŷ’r Cyffredin wedi cyhoeddi adroddiad sy’n hallt ei feirniadaeth am yr hyn ddigwyddodd.