Fe fydd Caerdydd yn gartref i un o dimau cystadleuaeth griced ugain pelawd fawr newydd Bwrdd Criced Cymru a Lloegr.

Y nod yw cystadlu gyda’r pwncampwriaethau Ugain20 sydd wedi llwyddo’n ysgubol mewn gwledydd fel India ac Awstralia.

Roedd nifer o ddinasoedd wedi cystadlu am yr hawl i gael tîm a, ddoe, fe glywodd Morgannwg y bydd Caerdydd yn un ohonyn nhw.

Yn ôl prif hyfforddwr Morgannwg, Robert Croft, fe allai’r gystadleuaeth “drawsnewid criced yng Nghymru” gan ddod â sylw rhyngwladol i Gaerdydd, a mwy o arian i ddatblygu Morgannwg a sêr y dyfodol.

‘Wrth ein bodd’

“R’yn ni wrth ein bodd” meddai Prif Weithredwr Clwb Criced Morgannwg, Hugh Morris. Fe fyddai’r cyhoeddiad yn “sbardun i dyfu criced yng Nghymru.

“R’yn ni’n credu y gall y gystadleuaeth T20 newydd ddilyn esiampl y Big Bash yn Awstralia drwy ddod â chynulleidfaoedd newydd i mewn, a gyda’r disgwyl y bydd cricedwyr gorau’r byd yn dod i Gaerdydd, all y gêm ddim ond parhau i ffynnu.”

Dinasoedd fydd yn cystadlu yn y bencampwriaeth a fydd yn dechrau yn 2020 ac fe glywodd Morgannwg y bydd Caerdydd hefyd yn cynnal wyth gêm undydd ryngwladol rhwng 2020 a 2024.

Cynnal gemau rhyngwladol yw prif incwm y sir fel bod modd tyfu’r gêm ar lawr gwlad yng Nghymru a datblygu cyfleusterau Academi’r sir ar gyfer y dyfodol.

Gemau rhyngwladol

Dyma restr o’r gemau rhyngwladol a fydd yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd rhwng 2020 a 2022.

Fe fydd Morgannwg yn cynnal gemau ugain pelawd a 50 pelawd yn 2023 a 2024, ond does dim cadarnhad eto pa wledydd fydd yn teithio i Gymru a Lloegr.

2020 – Lloegr v Pacistan (gêm ugain pelawd)

2021 – Lloegr v Sri Lanca (gêm ugain pelawd); Lloegr v Pacistan (gêm 50 pelawd)

2022 – Lloegr v De Affrica (gêm ugain pelawd)