Roedd y cyfarfod cyntaf rhwng yr AC newydd Jack Sargeant ‘r Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn “gyfeillgar” yn ôl Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, a oedd yno brynhawn ddoe.

Roedd y tri, meddai, wedi siarad am y disgwyliadau ar Aelodau Cynulliad ac roedd Ken Skates a Carwyn Jones wedi pwysleisio bod angen i’r gwleidydd newydd ofalu amdano’i hun tra oedd yn y swydd.

Hynny ar yr un diwrnod ag y gwnaeth Jack Sargeant ei araith gynta’ ers dilyn ei dad, Carl Sargeant, I sedd Alyn a Glannau Dyfrdwy mewn isetholiad a ddaeth ar ôl I’r cyn-AC ei ladd ei hun ychydig ddyddiau wedi cael y sac o Lywodraeht Carwyn Jones.

Galw i roi tystiolaeth

“Roedd yn gyfarfod cyfeillgar. Dw i’n meddwl ei fod yn bwysig i Jack wybod bod ganddo fe gefnogaeth pawb o fewn teulu Llafur Cymru,” meddai Ken Skates wrth golwg360.

Fe ddywedodd Ysgrifennydd yr Economi hefyd ei fod yn disgwyl cael ei alw i roi tystiolaeth i ymchwiliad Paul Bowen QC, sy’n edrych ar y digwyddiadau cyn marwolaeth Carl Sargeant.

“… O ystyried y bydd yr ymchwiliad a’r cwest yn edrych ar y dyddiau yn arwain at farwolaeth drasig Carl, dw i’n dychmygu y bydd llawer ohonom ni’n cael ein galw i roi tystiolaeth achos roedden ni’n gydweithwyr ac yn agos iddo.”

Ken Skates oedd un o ffrindiau agosa’ tad Jack Sargeant, Carl Sargeant, yn y Cynulliad ac mae’n un o’r rhai a oedd, yn ôl yr honiadau sy’n rhan o un o’r ymchwiliadau swyddogol, wedi tynnu sylw Carwyn Jones at achosion o fwlio o fewn Llywodraeth Cymru.

‘Angen gorffwys’

“[Yn y cyfafod] Fe wnaethon ni drafod sut beth yw bod yn Aelod Cynulliad a’r galwadau arnoch, nid yn unig ym Mae Caerdydd ond hefyd yn eich etholaeth a’r angen i allu gorffwys digon,” meddai Ken Skates wrth golwg360.

“Y ddealltwriaeth ymhlith gwleidyddion yn aml yw bod rhaid i chi weithio hyd at yr asgwrn ond mae’n bwysig hefyd eich bod chi’n gallu camu’n ôl a gorffwys o dro i dro i roi amser i chi eich hun ddatblygu syniadau.

“Fe wnaethon ni siarad am pa mor bwysig yw hi fel newydd-ddyfodiad i’r Cynulliad ei fod e’n gallu cymryd pethau gam wrth gam.”

Ymchwiliadau i farwolaeth Carl Sargeant

Ddoe oedd diwrnod cyntaf Jack Sargeant, 23, yn ei swydd newydd, tri mis ers i’w dad a’i ragflaenydd, Carl Sargeant, farw, dridiau ar ôl cael y sac o Gabinet Carwyn Jones.

Yn ei araith gyntaf ar lawr siambr y Senedd, pwysleisiodd yr AC ei fod am weld cyfiawnder i’w dad.

Mae dau ymchwiliad a chwest ar y gweill fydd yn edrych ar yr amgylchiadau o gwmpas marwolaeth Carl Sargeant.

“Fe wnaeth Jack ddweud mai’r ymchwiliadau fydd yn gallu ateb unrhyw gwestiynau sydd ganddo fe, ei deulu ac unrhyw un arall,” meddai Ken Skates am yr araith.

“Fe ddywedodd Jack yn gywir ac yn aeddfed iawn dw i’n meddwl, bod y cwestiynau hynny ar gyfer diwrnod arall i bobol eraill eu hateb ac i bobol sydd mewn awdurdod allu cynnal yr ymchwiliadau hynny heb unrhyw ffraeo na storm yn y cyfryngau a allai niweidio unrhyw ymchwiliadau diduedd fydd yn digwydd.”

  • Roedd Ken Skates yn sgwrsio wrth deithio ar un o drenau Arriva Wales adeg lansio cynllun Wi-Fi newydd – fe fydd cyfweliad llawnach am ddyfodol rheilffyrdd Cymru yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos nesa’.