Mae heddlu wedi gallu cadarnhau pwy oedd y corff a gafodd ei darganfod ar lannau Ynys Môn y llynedd.

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru dyn 71  oed o Ddulyn, oedd wedi dod i’r lan ym Mae Trearddur ger Caergybi ar Dachwedd 29. Mae’n debyg ei fod wedi diflannu union bythefnos ynghynt.

Dyw’r heddlu ddim yn ystyried bod yr achos yn un amheus, ac mae teulu’r dyn yn Nulyn a Chrwner Gogledd Cymru wedi cael gwybod.

Mae trefniadau ar droed i ddychwelyd corff y dyn at ei deulu yn Iwerddon.