Mae ymgyrch newydd wedi cael ei lansio gan Lywodraeth Cymru  gyda’r nod o fynd i’r afael â chyflwr dementia.

Gobaith gweinidogion yw bydd y cynllun yn “creu ffyrdd newydd o ofalu”, ac yn arwain at gynnydd yn niferoedd y gweithwyr cymorth a mwy o lwyddiant o ran diagnosis.

Bydd £10 miliwn ychwanegol yn cael ei fuddsoddi yn y Cynllun Dementia bob blwyddyn, ac mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i gyfnod cychwynnol o dair blynedd.

Yn ôl ffigurau’r Llywodraeth, mae tua 45,000 o bobol yng Nghymru yn byw gyda dementia sy’n gasgliad o gyflyrau sy’n effeithio ar rai o brosesau’r ymennydd.

“Syniadau llwyddiannus”

“Rydw i wedi gweld enghreifftiau ardderchog o ffyrdd newydd o ofalu am bobl sy’n byw â dementia yn y gymuned, fel gweithio gydag ysgolion lleol a phrosiectau garddio,” meddai’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething.

“Rydw i am weld syniadau llwyddiannus tebyg yn cael eu cyflwyno ledled Cymru, ac fe fydd y cynllun hwn yn helpu i gyflawni hynny.”