Mae model a chyflwynydd teledu o Aberystwyth wedi sôn am y tro cyntaf am y pwysau wnaeth hi deimlo tra’n gweithio yn y diwydiant ffasiwn a sut wnaeth hi droi at gamddefnyddio lacsatifs er mwyn colli pwysau.

Yn ôl Nia Marshalsay-Thomas, sy’n siarad ar y rhaglen Ein Byd ar S4C heno (Chwefror 13) mae’r blynyddoedd o gamddefnyddio lacsatifs wedi “dinistrio” ei chorff.

Fe ddechreuodd fodelu dros ddeng mlynedd yn ôl ar ôl ennill cystadleuaeth mewn cylchgrawn priodas. Ers hynny, mae ei gyrfa wedi amrywio o’r catwalk i waith masnachol.

“Meintiau’r ffrogiau oedd 6-8, ond maint 8-10 ydw i,” meddai Nia Marshalsay-Thomas. “Ro’n i’n teimlo mai fi oedd y ferch fwyaf yno. Fe wnes i adael yn teimlo’n isel iawn. Ro’n i’n teimlo fel eu bod nhw’n ceisio cuddio fy nghorff o dan y ffrogiau mawr. Roedd cywilydd arna’ i.

“Fe ddechreuais i drwy gymryd un (lacsatif) bob diwrnod. Yna, pan ddaeth fy nghorff yn gyfarwydd â hynny a pheidio gweithio, fe gynyddais i’r ddôs nes bod fy nghorff yn hollol ddibynnol arnyn nhw.”

Bob dydd

Ar ôl i’r lacsatifs roedd hi’n eu prynu beidio cael effaith arni, bu’n rhaid i Nia Marshalsay-Thomas fynd at y doctor, ac fe ddaeth hi i’r amlwg fod ei chorff bellach yn ddibynnol ar lacsatifs. Ers hynny, mae ganddi bresgripsiwn am lacsatifs ac mae’n rhaid iddi eu cymryd ddwywaith y dydd, bob dydd.

“Mae hyn yn rheoli fy mywyd bellach – mae’n embarrassing,” meddai. “Os af i rywle, mae’n rhaid i fi ddod â’r lacsatifs gyda fi. Mae wedi cael effaith anferth ar fy mywyd ar ôl deng mlynedd.”

Mae hi bellach yn cael ei chynrychioli gan asiantau ym Manceinion a Sheffield ac yn dweud ei bod hi’n teimlo’n llawer hapusach yn gwneud gwaith masnachol i gwmnïau fel Jaguar Land Rover, Clogau, a Dyfed Menswear.

Ei gobaith yw y bydd eraill yn medru dysgu o’i phrofiad a bod yn hapus yn eu crwyn eu hunain, yn hytrach na theimlo’r pwysau i gydymffurfio â syniad o “berffeithrwydd”.

“Petawn i wedi sylweddoli’n gynt fy mod i’n medru gwneud hyn oll drwy dderbyn fi fy hun, yn hytrach na cheisio newid ar gyfer y diwydiant, fyswn i byth wedi gwneud yr hyn wnes i a byddai fy nghorff yn dal i weithio fel y dylai.”

 

Ein Byd, (rhaglen ITV ar S4C), 9.30yh