Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud mwy o niwed i ddiwydiant dyframaeth (aquaculture) Cymru na Brexit hyd yn hyn, yn ôl ffermwr cerrig gleision o ogledd Cymru.

Mae Kim Mould yn gyfarwyddwr ar gwmni Myti Mussels ym Mangor, ac yn dweud ei fod yn cynhyrchu 10,000 tunnell o gerrig gleision y flwyddyn – 80% o gynnyrch Cymru.

Ag adroddiad cafodd ei gyhoeddi heddiw yn dangos y byddai diwydiant bwyd morol Cymru yn dioddef yn dilyn Brexit, mae Kim Mould yn wfftio’r canfyddiadau ac yn pwyntio bys at Fae Caerdydd.

“Wnawn nhw ddinistrio [y diwydiant dyframaeth] heb Brexit,” meddai wrth golwg360. “Bydd wedi’i ddinistrio yn barod.

“Mae’n ofnadwy yng Nghymru ar hyn o bryd. Dylen nhw fynd i’r afael â’r peth – dw i’n gobeithio y byddan nhw’n gwneud oherwydd, fel arall, fydd dim byd ar ôl yng Nghymru.”

Mae’n ychwanegu bod “cynhyrchiad wedi disgyn cryn dipyn” dros y blynyddoedd diwethaf, ac yn honni bod Llywodraeth Cymru wedi cefnu ar darged i ddyblu dyframaeth yng Nghymru.

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.

Brexit

Yn ôl adroddiad Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru gall diwydiant bwyd môr Cymru gael ei “adael ar ôl” wedi Brexit, ond dyw Kim Mould yn disgwyl “dim” newid.

Er ei fod yn tybio bod 90% o’i gynnyrch yn cael ei allforio i’r Undeb Ewropeaidd, mae’n ffyddiog na fydd “problem” wedi i Brydain adael yr Undeb.

“Dw i ddim yn credu bydd yna broblem gyda Brexit,” meddai. “Byddan nhw o hyd eisiau ein cynnyrch.

“Roeddwn i’n arfer allforio cyn yr oedden ni yn y Farchnad Sengl, ac mi wnawn ni altro ein strategaeth marchnata er mwyn cyflenwi marchnadoedd eraill – o fewn y Deyrnas Unedig, fwy na thebyg.

“Rydyn ni [cynhyrchwyr gogledd Cymru] yn arwain y farchnad, a dw i ddim yn gweld problem. Ni yw un o brif ffynonellau cregyn gleision sy’n cael eu hallforio, o fewn yr ynysoedd Prydeinig.”

Dadansoddi

Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu adroddiad Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru gan nodi y bydd yn “helpu i ni a’r diwydiant pysgota yng Nghymru baratoi ar gyfer effaith a chyfleoedd Brexit.”

Yn ôl llefarydd ar ran y Llywodraeth, mae’r adroddiad yn “cefnogi” eu dadansoddiad bod pysgod cregyn yn “arbennig o fregus mewn sefyllfa ble y collir marchnadoedd neu unrhyw rwystrau di-dariff”.

Mae Llywodraeth Cymru am sicrhau “mynediad llawn a di-rwystr i’r Farchnad Sengl”.