Mae cabinet Cyngor Sir Benfro wedi cytuno i gynyddu treth y cyngor o 12.5% yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.

Yn wreiddiol, roedd y cabinet yn ystyried dau opsiwn ynglŷn â chynyddu’r dreth gyngor, sef cynnydd o 12.5% neu gynnydd o 5% sydd hefyd yn cynnwys toriadau i wasanaethau cyhoeddus.

Ond yn dilyn cyfarfod heddiw (dydd Llun, Chwefror 12), mae’r cabinet wedi cymeradwyo’r opsiwn cyntaf, ac fe fydd yn cael ei gyflwyno i’r cyngor llawn fis nesaf.

Treth gyngor isaf yng Nghymru

Roedd treth gyngor ar gyfer tai Band D yng Nghymru yn £1,420 ar gyfartaledd yn 2017. Ond yn Sir Benfro, roedd y dreth hon gyda’r isaf yng Nghymru sef £1,128.

Ac yn ôl y cynghorydd Bob Kilmister heddiw, yr aelod cabinet sydd â chyfrifoldeb dros gyllid, mae angen i’r cyngor wneud arbedion o £16.4m yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf, a bod angen mynd i’r afael â’r lefel isel o dreth gyngor yn y sir ar hyn o bryd.