Mae cymdeithas myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth wedi eu calonogi i glywed bod un o’i haelodau a ddioddefodd ymosodiad difrifol fis diwethaf – yn gwella.

Cafodd Ifan Owens, 19, ei ddarganfod yn anymwybodol yn ystod oriau mân y bore ar Ionawr 14.

Ac ers yr ymosodiad ar Stryd Uchel, Aberystwyth, mae’r myfyriwr  wedi bod mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.

Ond, bellach mae wedi dod i’r amlwg bod Ifan Owens wedi deffro o goma ac yn medru ymateb i gyfarwyddiadau syml.

“Roedd pawb yn hapus iawn ddoe, i glywed y newyddion,” meddai Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA), Gwion Llwyd Williams, wrth golwg360.

“Rydym ni’n gwybod bod Ifan yn berson cryf iawn, ac y bydd yn brwydro ymlaen. Felly, rydym ni’n falch i glywed newyddion positif ddoe. Rydym ni’n edrych ymlaen at weld ei gyflwr yn gwella dros y misoedd nesaf.”

‘Aber dros Ifan’

Bydd taith gerdded yn cael ei chynnal yn Aberystwyth ddydd Sul (Chwefror 18) er mwyn codi arian i Ifan Owens, ac i ddangos cefnogaeth tuag ato.

Mae’r daith wedi’i threfnu ar y cyd rhwng UMCA, Cymdeithas y Geltaidd a thrigolion y dref; ac yn ôl Gwion Williams fydd yr awyrgylch yn llawer mwy positif yn sgil y newyddion diweddaraf.

“Rydym ni gyd yn edrych ymlaen at ddydd Sul,” meddai. “[Bydd e’n gyfle] i ddangos faint o gefnogaeth sydd y tu ôl iddo o’r dref, o UMCA, a hefyd o du allan.

“Bydd Gwobrau’r Selar yn cael eu cynnal y penwythnos hwn, felly gobeithio bydd tipyn yn aros i gymryd rhan.”