Bydd sesiynau arbennig yn cael eu cynnal yn Ynys Môn, fydd yn rhoi cyfle i drigolion glywed y diweddaraf am ymchwiliad i achosion o lifogydd.

Cafodd 31 o adeiladau yn Llangefni, a 13 adeilad yn Nwyran, eu difrodi gan lifogydd ar Dachwedd 22 y llynedd, yn dilyn glaw eithafol.

Bellach mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ymchwilio i’r llifogydd – a gafodd eu hachosi gan Afon Cefni, Afon Braint ac Afon Rhyd y Fali – i “ddeall yn llwyr” beth ddigwyddodd.

Bydd y sesiwn  ‘galw heibio’ cyntaf yn cael ei gynnal prynhawn heddiw (Chwefror 12) ym Mhlas Arthur, Llangefni; a’r ail yn cael ei gynnal yn Ysgol Dwyran ar Chwefror 19.

“Cydymdeimlo”

“Rydym yn cydymdeimlo â thrigolion Llangefni a Dwyran a ddioddefodd lifogydd ddeufis yn ôl,” meddai Rheolwr Perygl Llifogydd, Cyfoeth Naturiol Cymru, Keith Ivens.

“Fel rhan o’r ymchwiliad mae ein timau wedi bod yn casglu gwybodaeth gan y rheini a ddioddefodd, a bydd y sesiynau galw heibio yn gyfle inni wneud yn siŵr ein bod wedi clywed profiadau pawb a chael yr holl wybodaeth.”