Mae Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, wedi dechrau ar daith o’r Unol Daleithiau, gyda’r nod o  ddenu cwmnïau Americanaidd i fuddsoddi yng Nghymru.

Gan ddechrau heddiw (Chwefror 12) bydd Alun Cairns yn treulio tri diwrnod yn cyfarfod â chwmnïau seibr ddiogelwch a fferyllol yn Efrog Newydd, New Jersey a Pennsylvania.

“Mae cwmnïau o’r Unol Daleithiau yn buddsoddi dros £30 biliwn yn y Deyrnas Unedig, ac mae ein perthynas masnach yn gryfach nag erioed,” meddai Alun Cairns.

“Hoffwn weld parhad twf a ffyniant y bartneriaeth, gan droi Cymru yn le dymunol i fuddsoddwyr.”

Yn ymuno ag ef bydd dau ymgynghorydd o’r Bwrdd Masnach: cyn-Gadeirydd Maes Awyr Caerdydd, Arglwydd David Rowe-Beddoe; a Phennaeth Staff grŵp Maes Awyr Manceinion, Collette Roche.