Mae cwmni trenau Arriva yn cynnig gwasanaeth bws yn lle trên yn y de a’r gogledd o ganlyniad i waith peirianyddol.

Mae’r gwaith yn effeithio ar wasanaethau rhwng Caer a Chyffordd Llandudno yn y gogledd, a Chaerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr yn y de.

Mae rhybudd i deithwyr wirio gwybodaeth am deithiau cyn teithio.