Mae Banc Datblygu Cymru, a gafodd ei lansio ym mis Hydref y llynedd, wedi arwyddo’r brydles ar ei bencadlys newydd yn Wrecsam.

Yn hwyrach eleni, fe fydd ei staff cyntaf yn cychwyn gweithio o’r pencadlys newydd yn hen swyddfeydd Moneypenny ym Mharc Technoleg Wrecsam.

Cafodd y Banc ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i’w gwneud yn haws i fusnesau gael y cyllid sydd ei angen arnynt i ddechrau, cryfhau a thyfu.

Mae’n cynnig benthyciadau o £1,000 hyd at £5 miliwn yn ogystal â buddsoddiadau ecwiti hyd at £5 miliwn ar gyfer cwmnïau neu fusnesau yng Nghymru sy’n bwriadu symud yma. Mae hefyd yn rheoli cynllun Cymorth i Brynu Cymru, sy’n cynnig benthyciadau ecwiti i bobl sy’n prynu cartrefi newydd yng Nghymru.

Targed y banc datblygu yw cael effaith o fwy na £1 biliwn ar economi Cymru dros y pum mlynedd nesaf.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: “Rwy’n falch iawn bod y brydles bellach wedi cael ei harwyddo ar gyfer pencadlys y Banc Datblygu a fydd yn darparu 50 o swyddi o safon yma yn Wrecsam.”