Mae’r heddlu bellach wedi adnabod cyrff y ddau ddyn a gafodd eu darganfod ar draeth Malltraeth ar arfordir gorllewinol Môn fore ddoe.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Gerwyn Thomas o CID Caernarfon nad oedd y naill ddyn na’r llall yn dod o ogledd Cymru.
“Rydym yn y broses o gysylltu â’u perthnasau agosaf ar hyn o bryd,” meddai.
“Mae eu marwolaethau’n cael eu trin fel rhai nad oes esboniad iddynt ar hyn o bryd wrth inni gynnal ein hymchwiliad i ddarganfod beth oedd yr amgylchiadau.”