Mae Heddlu Gogledd Cymru’n dweud bod dau gorff wedi cael eu ffeindio ar draeth Malltraeth yn Ynys Môn.

Does dim llawer o fanylion ar hyn o bryd ond mae’n debyg mai cyrff dynion ydyn nhw a bod yr heddlu’n amau cysylltiad gyda darn o gorff a gafwyd yn Y Felinheli ynghynt yn yr wythnos.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i’r traeth tua hanner dydd ac mae swyddogion wedi bod yn archwilio’r ardal ers hynny.

Yn ôl yr heddlu, maen nhw’n ystyried ar hyn o bryd bod y marwolaethau’n “ddiesboniad”.