Mae cyflwr y brif lôn sy’n cysylltu de a gogledd Cymru wedi cael y bai am fod yn rhwystr i dwristiaeth.

Yn ôl Deirdre Wells, Prif Weithredwr UK Inbound – corff sy’n cynrychioli busnesau sy’n dibynnu ar dwristiaeth – mae cyflwr yr A470 yn golygu bod denu ymhelwyr o dramor yn fwy anodd.

Mewn cynhadledd yng Nghaerdydd, galwodd am wella’r ffordd fel bod hi’n cymryd llai o amser i deithio o un pen o Gymru i’r llall.

Mae’r daith ar hyn o bryd yn cymryd tua phedair awr.

Yn ôl Deirdre Wells, mae’r ffaith bod hi’n cymryd cymaint o amser i deithio o un pen y wlad i’r llall yn golygu bod y lleoedd lle mae ymwelwyr yn glanio yn gyntaf yn hollbwysig.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod yn gwario arian ar wella ffyrdd a rheilffyrdd y wlad.