Mae cannoedd o athrawon ledled gwledydd Prydain yn dweud eu bod nhw’n cael trafferth darparu gwasanaethau iechyd meddwl i’w disgyblion, yn ôl arolwg newydd.

Er bod yr arolwg gan yr elusen i blant, Place2Be, yn dangos bod 85% o ysgolion uwchradd a 56% o ysgolion cynradd yn darparu rhyw fath o wasanaeth gwnsela i blant, dywedodd bron hanner o’r ffigwr hwnnw eu bod nhw’n cael problemau darparu gwasanaethau ehangach.

Roedd naw allan o deg a gafodd eu holi wedyn yn dweud bod diffyg nawdd yn rhwystr i ysgolion gynnal gwasanaethau o’r fath.

Fe wnaeth Place2Be, sy’n cael ei noddi gan Dduges Caergrawnt, gynnal yr arolwg rhwng misoedd Medi a Hydref 2017, gyda dau  o bob tri o’r 655 a gafodd eu holi yn gweithio yn addysg gynradd, ac un o bob tri yn addysg uwchradd.

Mae’r elusen yn dadlau bod gwasanaethau iechyd mewn ysgolion yn “hanfodol”, gan fod problemau iechyd meddwl mewn oedolion yn cychwyn pan maen nhw’n 14 oed.

Angen cymorth ar ysgolion

“Mae ein tystiolaeth a’n profiad yn dangos bod sefydlu arbenigwyr iechyd meddwl mewn ysgolion, fel rhan o amcanion yr ysgol gyfan, yn cael effaith positif enfawr ar ddisgyblion, teuluoedd a staff,” meddai Catherine Roche, Prif Weithredwr Place2Be.

“Mae arweinwyr ysgolion yn barod o dan bwysau mawr i ddarparu cynnydd academaidd, a dylwn ni ddim disgwyl iddyn nhw ddod yn arbenigwyr ar iechyd meddwl hefyd.”