Mi fydd £10 miliwn ychwanegol yn cael ei fuddsoddi mewn gofal cymdeithasol er mwyn lleihau’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mae’r Gweinidog Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies, wedi cadarnhau y bydd y swm ariannol ychwanegol yn cael ei fuddsoddi er mwyn sicrhau bod mwy o wasanaethau gofal cartref ar gael er mwyn i gleifion allu adael yr ysbyty yn gynt.

Fe fydd hefyd yn helpu pobol i aros yn eu cartrefi, gan osgoi gorfod mynd i’r ysbyty yn ddiangen.

Mae’r swm hwn yn ychwanegol at y £60 miliwn sy’n cael ei fuddsoddi gan Lywodraeth Cymru yn flynyddol i’r Gronfa Gofal Integredig – cronfa sy’n lleihau’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol hanfodol.

Yn ôl ystadegau diweddaraf, mae’r nifer o achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal yng Nghymru ar eu lefel isaf ers 12 mlynedd.

Buddsoddiad “sylweddol”

“Yng Nghymru, rydyn ni’n buddsoddi’n sylweddol yn ein gwasanaeth iechyd a’n gwasanaeth gofal cymdeithasol, gan nad yw’r naill wasanaeth yn gallu gweithio heb y llall,” meddai Huw Irranca-Davies.

“Mae’r arian ychwanegol oddi wrthon ni yn cael ei ddefnyddio i sicrhau bod cleifion yn symud drwy’r system yn rhwyddach, ac i drin a gofalu am y nifer gynyddol o bobol – yn enwedig y bobl hŷn fregus – y mae arnyn nhw angen gwasanaethau iechyd a gofal ar yr adeg hon o’r flwyddyn.”